21 “Iawn,” meddai'r angel, “wna i ddim dinistrio'r dref yna.
22 Brysia felly. Dianc yno. Alla i wneud dim byd nes byddi di wedi cyrraedd yno.” A dyna pam mae'r lle yn cael ei alw yn Soar.
23 Erbyn i Lot gyrraedd Soar roedd hi wedi dyddio.
24 A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o'r awyr ar Sodom a Gomorra.
25 Cafodd y ddwy dref eu dinistrio'n llwyr, a phawb a phopeth yn y dyffryn, hyd yn oed y planhigion.
26 A dyma wraig Lot yn edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a cafodd ei throi yn golofn o halen.
27 Yn gynnar y bore wedyn aeth Abraham i'r man lle buodd e'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.