24 A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i dân a brwmstan syrthio o'r awyr ar Sodom a Gomorra.
25 Cafodd y ddwy dref eu dinistrio'n llwyr, a phawb a phopeth yn y dyffryn, hyd yn oed y planhigion.
26 A dyma wraig Lot yn edrych yn ôl a syllu ar beth oedd yn digwydd, a cafodd ei throi yn golofn o halen.
27 Yn gynnar y bore wedyn aeth Abraham i'r man lle buodd e'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
28 Edrychodd i lawr ar y dyffryn ac i gyfeiriad Sodom a Gomorra a gweld y mwg yn codi o'r tir fel mwg o ffwrnais.
29 Ond pan ddinistriodd Duw drefi'r dyffryn, roedd wedi cofio beth oedd wedi ei addo i Abraham. Roedd wedi achub Lot o ganol y dinistr.
30 Roedd gan Lot ofn aros yn Soar, felly aeth i'r bryniau i fyw. Roedd yn byw yno gyda'i ddwy ferch mewn ogof.