34 Y bore wedyn dyma'r hynaf yn dweud wrth yr ifancaf, “Gwnes i gysgu gyda dad neithiwr. Gad i ni roi gwin iddo eto heno, a chei di gysgu gydag e, er mwyn i ni gael plant o'n tad a chadw enw'r teulu i fynd.”
35 Felly dyma nhw'n gwneud i'w tad feddwi y noson honno eto. A dyma'r ifancaf yn mynd at ei thad ac yn cael rhyw gydag e. Ond eto, roedd Lot yn rhy feddw i wybod dim am y peth.
36 A dyna sut y cafodd y ddwy ferch blant o'u tad.
37 Cafodd y ferch hynaf fab a'i alw yn Moab. Ohono fe y daeth y Moabiaid.
38 Cafodd yr ifancaf fab hefyd, a'i alw yn Ben-ammi. Ac ohono fe y daeth yr Ammoniaid.