1 Symudodd Abraham i'r de i gyfeiriad y Negef, a buodd yn byw rhwng Cadesh a Shwr. Pan oedd yn symud o gwmpas ardal Gerar
2 dwedodd wrth bobl mai ei chwaer oedd Sara, ei wraig. A dyma Abimelech, brenin Gerar, yn anfon amdani i'w chymryd iddo ei hun.
3 Ond dyma Duw yn siarad gydag Abimelech mewn breuddwyd un noson, a dweud wrtho, “Ti'n mynd i farw am gymryd y wraig yma, achos mae hi'n wraig briod.”
4 Ar y pryd doedd Abimelech ddim wedi cysgu gyda hi, ac felly dwedodd, “Meistr, fyddet ti'n dinistrio pobl sy'n ddieuog?