14 Wedyn dyma Abimelech yn rhoi defaid ac ychen, caethweision a chaethferched i Abraham. A rhoddodd ei wraig Sara yn ôl iddo hefyd.
15 Wedyn dwedodd wrtho, “Cei fyw ble bynnag rwyt ti eisiau yn fy ngwlad i.”
16 A dwedodd wrth Sara, “Dw i'n rhoi mil o ddarnau arian i dy ‛frawd‛ di. Dw i'n ei roi yn iawndal am bopeth sydd wedi digwydd i ti. Bydd pawb yn gweld wedyn dy fod ti heb wneud dim byd o'i le.”
17 Yna dyma Abraham yn gweddïo ar Dduw, a dyma Duw yn iacháu Abimelech, a'i wraig a'r merched eraill yn ei harîm, fel eu bod nhw'n gallu cael plant eto.
18 (Roedd yr ARGLWYDD wedi stopio'r merched i gyd rhag cael plant, am fod Abimelech wedi cymryd Sara, gwraig Abraham.)