3 Ond dyma Duw yn siarad gydag Abimelech mewn breuddwyd un noson, a dweud wrtho, “Ti'n mynd i farw am gymryd y wraig yma, achos mae hi'n wraig briod.”
4 Ar y pryd doedd Abimelech ddim wedi cysgu gyda hi, ac felly dwedodd, “Meistr, fyddet ti'n dinistrio pobl sy'n ddieuog?
5 Roedd Abraham wedi dweud mai ei chwaer e oedd hi. Ac roedd hithau'n dweud mai ei brawd hi oedd Abraham. Ro'n i'n gweithredu'n gwbl ddiniwed.”
6 A dyma Duw yn ei ateb, “Ie, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddiniwed. Fi gadwodd di rhag pechu yn fy erbyn i. Wnes i ddim gadael i ti ei chyffwrdd hi.
7 Felly, rho'r wraig yn ôl i'w gŵr. Mae e'n broffwyd. Bydd e'n gweddïo drosot ti, a chei di fyw. Ond os nad wyt ti'n fodlon mynd â hi yn ôl, rhaid i ti ddeall y byddi di a dy bobl yn marw.”
8 Felly yn gynnar y bore wedyn dyma Abimelech yn galw ei swyddogion i gyd. Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, ac roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau.
9 Wedyn dyma Abimelech yn galw am Abraham a dweud wrtho, “Pam rwyt ti wedi gwneud hyn i ni? Ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le i ti? Pam rwyt ti wedi achosi i mi a'm pobl bechu mor ofnadwy? Ddylai neb fy nhrin i fel yma.”