9 Wedyn dyma Abimelech yn galw am Abraham a dweud wrtho, “Pam rwyt ti wedi gwneud hyn i ni? Ydw i wedi gwneud rhywbeth o'i le i ti? Pam rwyt ti wedi achosi i mi a'm pobl bechu mor ofnadwy? Ddylai neb fy nhrin i fel yma.”
10 A gofynnodd i Abraham, “Beth roeddet ti'n feddwl roeddet ti'n ei wneud?”
11 A dyma Abraham yn ateb, “Doeddwn i ddim yn meddwl fod unrhyw un yn addoli Duw yma. Roeddwn i'n meddwl y byddech chi'n siŵr o'm lladd i er mwyn cael fy ngwraig.
12 A beth bynnag, mae'n berffaith wir ei bod hi'n chwaer i mi. Mae gynnon ni'r un tad, ond dim yr un fam. Ond dyma fi'n ei phriodi hi.
13 Pan wnaeth Duw i mi adael cartref fy nhad, dywedais wrthi, ‘Dw i am i ti addo gwneud rhywbeth i mi. Ble bynnag awn ni, dywed wrth bobl ein bod ni'n frawd a chwaer.’”
14 Wedyn dyma Abimelech yn rhoi defaid ac ychen, caethweision a chaethferched i Abraham. A rhoddodd ei wraig Sara yn ôl iddo hefyd.
15 Wedyn dwedodd wrtho, “Cei fyw ble bynnag rwyt ti eisiau yn fy ngwlad i.”