10 A dyma hi'n dweud wrth Abraham, “Dw i eisiau i ti gael gwared â'r gaethferch yna a'i mab. Fydd mab y gaethferch yna ddim yn cael rhan o etifeddiaeth fy mab i Isaac!”
11 Doedd Abraham ddim yn hapus o gwbl am y peth, achos roedd Ishmael hefyd yn fab iddo.
12 Ond dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Paid teimlo'n ddrwg am y bachgen a'i fam. Gwna bopeth mae Sara'n ei ddweud wrthyt. Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.
13 Ond bydda i'n gwneud mab y gaethferch yn genedl hefyd, am mai dy blentyn di ydy e.”
14 Felly dyma Abraham yn codi'n gynnar. Rhoddodd fwyd a photel groen o ddŵr i Hagar ei gario ar ei chefn. Yna anfonodd hi i ffwrdd gyda'i mab, ac aeth i grwydro o gwmpas anialwch Beersheba.
15 Pan oedd dim dŵr ar ôl yn y botel, dyma hi'n gadael y bachgen dan gysgod un o'r llwyni.
16 Wedyn aeth i eistedd ar ei phen ei hun reit bell oddi wrtho (tua ergyd bwa i ffwrdd). “Alla i ddim edrych ar y bachgen yn marw,” meddyliodd. Eisteddodd i lawr gyferbyn ag e, a dechrau crïo'n uchel.