15 Dyma angel yr ARGLWYDD yn galw ar Abraham eto.
16 “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n addo hyn ar fy llw: Am dy fod ti wedi gwneud beth wnest ti (roeddet ti'n fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti),
17 dw i'n mynd i dy fendithio di go iawn a rhoi cymaint o ddisgynyddion i ti ag sydd o sêr yn yr awyr. Byddan nhw fel y tywod ar lan y môr. A byddan nhw'n concro dinasoedd eu gelynion.
18 Trwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio, am dy fod ti wedi gwneud beth ddywedais i.’”
19 Felly, aeth Abraham yn ôl at ei weision, a dyma nhw'n teithio gyda'i gilydd i Beersheba, lle gwnaeth Abraham setlo.
20 Beth amser wedyn dwedodd rhywun wrth Abraham fod Milca, gwraig ei frawd Nachor, wedi cael plant hefyd.
21 Us oedd y mab hynaf, wedyn ei frawd Bws, ac wedyn Cemwel tad Aram,