19 Felly, aeth Abraham yn ôl at ei weision, a dyma nhw'n teithio gyda'i gilydd i Beersheba, lle gwnaeth Abraham setlo.
20 Beth amser wedyn dwedodd rhywun wrth Abraham fod Milca, gwraig ei frawd Nachor, wedi cael plant hefyd.
21 Us oedd y mab hynaf, wedyn ei frawd Bws, ac wedyn Cemwel tad Aram,
22 ac wedyn Cesed, Chaso, Pildash, Idlaff a Bethwel.
23 (Bethwel oedd tad Rebeca.) Roedd yr wyth yma yn blant i Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham.
24 Ond roedd gan Nachor bartner arall o'r enw Rŵma, a chafodd hi blant hefyd, sef Tefach, Gacham, Tachash a Maacha.