4 Ar ôl teithio am ddeuddydd roedd Abraham yn gweld pen y daith yn y pellter.
5 Dwedodd wrth ei weision, “Arhoswch chi yma gyda'r asyn tra dw i a'r bachgen yn mynd draw acw. Dŷn ni'n mynd i addoli Duw, ac wedyn down ni'n ôl atoch chi.”
6 Dyma Abraham yn rhoi'r coed ar gefn ei fab, Isaac. Wedyn cymerodd y tân a'r gyllell, ac aeth y ddau yn eu blaenau gyda'i gilydd.
7 “Dad,” meddai Isaac wrth Abraham. “Ie, machgen i?” meddai Abraham. “Dad, mae gen ti dân a choed ar gyfer llosgi'r offrwm, ond ble mae'r oen sydd i gael ei aberthu?”
8 “Bydd Duw ei hun yn gwneud yn siŵr fod oen gynnon ni i'w aberthu, machgen i,” meddai Abraham. Felly dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau gyda'i gilydd.
9 Ar ôl cyrraedd y lle roedd Duw wedi sôn amdano, dyma Abraham yn adeiladu allor yno, ac yn gosod y coed ar yr allor. Wedyn dyma fe'n rhwymo ei fab Isaac ac yn ei roi i orwedd ar ben y coed ar yr allor.
10 Gafaelodd Abraham yn y gyllell, ac roedd ar fin lladd ei fab.