8 “Bydd Duw ei hun yn gwneud yn siŵr fod oen gynnon ni i'w aberthu, machgen i,” meddai Abraham. Felly dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau gyda'i gilydd.
9 Ar ôl cyrraedd y lle roedd Duw wedi sôn amdano, dyma Abraham yn adeiladu allor yno, ac yn gosod y coed ar yr allor. Wedyn dyma fe'n rhwymo ei fab Isaac ac yn ei roi i orwedd ar ben y coed ar yr allor.
10 Gafaelodd Abraham yn y gyllell, ac roedd ar fin lladd ei fab.
11 Ond dyma angel yr ARGLWYDD yn galw arno o'r nefoedd, “Abraham! Abraham!” “Ie? dyma fi” meddai Abraham.
12 “Paid cyffwrdd y bachgen, na gwneud dim byd iddo. Dw i'n gwybod bellach dy fod ti'n parchu Duw. Roeddet ti hyd yn oed yn fodlon aberthu dy fab i mi – yr unig fab sydd gen ti.”
13 Gwelodd Abraham hwrdd y tu ôl iddo. Roedd cyrn yr hwrdd wedi mynd yn sownd mewn drysni. Felly dyma Abraham yn cymryd yr hwrdd a'i losgi yn offrwm i Dduw yn lle ei fab.
14 Galwodd Abraham y lle yn “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”. Mae pobl yn dal i ddweud heddiw, “Mae'r ARGLWYDD yn darparu beth sydd ei angen ar ei fynydd.”