16 Felly dyma Abraham yn cytuno i'w dalu. A dyma Abraham yn pwyso'r swm o arian oedd wedi ei gytuno o flaen tystion, a'i roi i Effron, sef 400 darn o arian yn ôl mesur safonol y cyfnod.
17 Felly prynodd Abraham y tir gan Effron. Roedd yn Machpela, i'r dwyrain o Mamre. Cafodd yr ogof oedd arno a'r coed oedd o fewn ei ffiniau.
18 Roedd disgynyddion Heth a phawb arall oedd wrth giât y ddinas, yn dystion i'r cytundeb.
19 Ar ôl prynu'r tir dyma Abraham yn claddu Sara ei wraig yn yr ogof oedd yno, yn Machpela ger Mamre (sef Hebron) yng ngwlad Canaan.
20 Cafodd y tir a'r ogof oedd arno eu gwerthu i Abraham gan ddisgynyddion Heth, iddo gladdu ei deulu yno.