1-2 Bu farw Sara yn 127 oed, yn Ciriath-arba (sef Hebron), yn Canaan. A buodd Abraham yn galaru ac yn wylo drosti.
3 Yna dyma Abraham yn codi a mynd i siarad gyda disgynyddion Heth,
4 “Mewnfudwr ydw i, yn byw dros dro yn eich plith chi. Wnewch chi werthu darn o dir i mi i gladdu fy ngwraig?”
5 A dyma ddisgynyddion Heth yn ateb,
6 “Wrth gwrs syr. Rwyt ti fel tywysog pwysig yn ein golwg ni. Dewis y bedd gorau sydd gynnon ni i gladdu dy wraig ynddo. Byddai'n fraint gan unrhyw un ohonon ni i roi ei fedd i ti gladdu dy wraig.”