17 Yna dyma'r gwas yn brysio draw ati a gofyn iddi, “Ga i ychydig o ddŵr i'w yfed gen ti?”
18 “Wrth gwrs, syr,” meddai. A dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd ac yn rhoi diod iddo.
19 Ar ôl gwneud hynny, dyma hi'n dweud, “Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd, nes byddan nhw wedi cael digon i'w yfed.”
20 Felly dyma hi'n gwagio'r dŵr oedd ganddi yn ei jwg i'r cafn anifeiliaid, a mynd yn ôl at y pydew i godi mwy o ddŵr. A gwnaeth hynny nes oedd hi wedi codi digon o ddŵr i'r camelod i gyd.
21 Ddwedodd y gwas ddim byd. Roedd yn sefyll yno yn syllu arni, i weld os oedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud yn llwyddiannus ai peidio.
22 Pan oedd y camelod wedi gorffen yfed, dyma'r gwas yn rhoi modrwy drwyn werthfawr i'r ferch ifanc, a dwy freichled aur gostus hefyd.
23 Gofynnodd iddi, “Merch pwy wyt ti? Fyddai gan dy dad le i ni aros dros nos?”