44 Os bydd hi'n ateb, “Cei, wrth gwrs. Gad i mi godi dŵr i dy gamelod di hefyd,” – hi fydd y ferch mae'r ARGLWYDD wedi ei dewis i fod yn wraig i fab fy meistr.’
45 Roeddwn i'n dal i weddïo'n dawel pan gyrhaeddodd Rebeca â jwg dŵr ar ei hysgwydd. Aeth i lawr at y pydew i godi dŵr. A dyma fi'n gofyn iddi, ‘Plîs ga i ddiod o ddŵr gen ti.’
46 Dyma hi'n tynnu'r jwg i lawr oddi ar ei hysgwydd, a dweud, ‘Cei, wrth gwrs. Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Felly dyma fi'n yfed, a dyma hi'n rhoi dŵr i'r camelod hefyd.
47 Wedyn dyma fi'n gofyn iddi, ‘Merch pwy wyt ti?’ A dyma hi'n ateb, ‘Dw i'n ferch i Bethwel, mab Nachor a'i wraig Milca.’ Felly dyma fi'n rhoi'r fodrwy drwyn a'r breichledau iddi.
48 Wedyn dyma fi'n plygu i addoli'r ARGLWYDD. Roeddwn i'n moli'r ARGLWYDD, Duw fy meistr Abraham, am ei fod wedi fy arwain i at wyres ei frawd.
49 Dyna ddigwyddodd, felly beth amdani? Ydych chi'n mynd i fod yn garedig at fy meistr neu ddim? Dwedwch wrtho i, er mwyn i mi wybod beth i'w wneud nesa.”
50 Dyma Laban a Bethwel yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD tu ôl i hyn i gyd. Does dim byd allwn ni ei ddweud.