49 Dyna ddigwyddodd, felly beth amdani? Ydych chi'n mynd i fod yn garedig at fy meistr neu ddim? Dwedwch wrtho i, er mwyn i mi wybod beth i'w wneud nesa.”
50 Dyma Laban a Bethwel yn dweud, “Mae'r ARGLWYDD tu ôl i hyn i gyd. Does dim byd allwn ni ei ddweud.
51 Dyma Rebeca; dos â hi gyda ti. Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ddigon clir mai hi sydd i fod yn wraig i fab dy feistr.”
52 Pan glywodd gwas Abraham hyn, ymgrymodd yn isel o flaen yr ARGLWYDD.
53 Wedyn dyma fe'n estyn tlysau arian ac aur, a dillad, a'u rhoi i Rebeca. Rhoddodd anrhegion drud i'w brawd a'i mam hefyd.
54 Ar ôl gwneud hynny dyma'r gwas a'r dynion oedd gydag e yn bwyta'r pryd bwyd, ac yn yfed, ac yn aros yno dros nos.Ar ôl iddyn nhw godi y bore wedyn, dyma'r gwas yn dweud, “Gadewch i mi fynd yn ôl at fy meistr nawr.”
55 Ond dyma frawd a mam Rebeca'n ei ateb, “Gad i'r ferch aros gyda ni am ryw wythnos i ddeg diwrnod. Caiff fynd wedyn.”