59 Felly dyma nhw'n ei hanfon hi i ffwrdd gyda'r forwyn oedd wedi ei magu hi, a gwas Abraham a'r dynion oedd gydag e.
60 Dyma nhw'n bendithio Rebeca a dweud wrthi,“Boed i ti, ein chwaer, fod yn fam i filiynau!Boed i dy ddisgynyddion di orchfygu eu gelynion i gyd.”
61 Felly i ffwrdd â Rebeca a'i morynion ar gefn y camelod gyda gwas Abraham.
62 Roedd Isaac wedi bod yn Beër-lachai-roi. Roedd yn byw yn ardal y Negef yn y de.
63 Aeth allan am dro gyda'r nos, a gwelodd gamelod yn dod i'w gyfeiriad.
64 Gwelodd Rebeca Isaac hefyd. Daeth i lawr o'i chamel
65 a gofyn i was Abraham, “Pwy ydy'r dyn acw sy'n dod i'n cyfeiriad ni?” Ac meddai'r gwas, “Fy meistr i ydy e.” Felly dyma Rebeca yn rhoi fêl dros ei hwyneb.