11 Ar ôl i Abraham farw dyma Duw yn bendithio Isaac. Aeth i fyw wrth ymyl Beër-lachai-roi.
12 Dyma hanes teulu Ishmael, y mab gafodd Abraham gan Hagar, morwyn Eifftaidd Sara:
13 Dyma enwau meibion Ishmael, mewn trefn (o'r hynaf i'r ifancaf):Nebaioth oedd ei fab hynaf, wedyn Cedar, Adbeël, Mifsam,
14 Mishma, Dwma, Massa,
15 Hadad, Tema, Ietwr, Naffish a Cedema.
16 Y rhain oedd meibion Ishmael, a chafodd y pentrefi ble roedden nhw'n byw eu henwi ar eu holau. Roedd y deuddeg ohonyn nhw yn benaethiaid ar eu llwythau.
17 Roedd Ishmael yn 137 oed pan fuodd farw a mynd at ei hynafiaid.