2 Hi oedd mam Simran, Iocsan, Medan, Midian, Ishbac a Shwach.
3 Iocsan oedd tad Sheba a Dedan. A disgynyddion Dedan oedd yr Ashwriaid, y Letwshiaid a'r Lewmiaid.
4 Wedyn meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida ac Eldaa. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra.
5 Gadawodd Abraham bopeth oedd ganddo i'w fab Isaac.
6 Roedd wedi anfon meibion ei bartneriaid eraill i ffwrdd i'r dwyrain, yn bell oddi wrth ei fab Isaac, ac wedi rhoi anrhegion iddyn nhw bryd hynny.
7 Buodd Abraham fyw i fod yn 175 oed.
8 Roedd yn hen ddyn pan fuodd farw, wedi byw bywyd llawn.