26 Wedyn daeth y llall yn cydio'n dynn yn sawdl Esau, felly dyma nhw'n ei alw'n Jacob. Roedd Isaac yn 60 oed pan gawson nhw eu geni.
27 Pan oedd y bechgyn wedi tyfu roedd Esau yn heliwr gwych, wrth ei fodd yn mynd allan i'r wlad. Ond roedd Jacob yn fachgen tawel, yn hoffi aros gartre.
28 Esau oedd ffefryn Isaac, am ei fod yn mwynhau bwyta'r anifeiliaid roedd wedi eu dal. Ond Jacob oedd ffefryn Rebeca.
29 Un tro pan oedd Jacob yn coginio cawl, dyma Esau yn dod i mewn wedi blino'n lân ar ôl bod allan yn hela.
30 “Dw i bron marw eisiau bwyd,” meddai. “Ga i beth o'r cawl coch yna i'w fwyta gen ti?” (Dyna sut y daeth i gael ei alw yn Edom.)
31 “Cei os gwnei di werthu dy hawliau fel y mab hynaf i mi,” meddai Jacob.
32 Atebodd Esau, “Fydd hawliau'r mab hynaf yn werth dim byd i mi os gwna i farw!”