30 “Dw i bron marw eisiau bwyd,” meddai. “Ga i beth o'r cawl coch yna i'w fwyta gen ti?” (Dyna sut y daeth i gael ei alw yn Edom.)
31 “Cei os gwnei di werthu dy hawliau fel y mab hynaf i mi,” meddai Jacob.
32 Atebodd Esau, “Fydd hawliau'r mab hynaf yn werth dim byd i mi os gwna i farw!”
33 “Rhaid i ti addo i mi ar lw,” meddai Jacob. Felly dyma Esau yn addo ar lw, ac yn gwerthu hawliau'r mab hynaf i Jacob.
34 Felly rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau. Ar ôl iddo fwyta ac yfed dyma Esau yn codi ar ei draed a cherdded allan. Roedd yn dangos ei fod yn malio dim am ei hawliau fel y mab hynaf.