8 Roedd yn hen ddyn pan fuodd farw, wedi byw bywyd llawn.
9-10 Cafodd ei gladdu gan ei feibion Isaac ac Ishmael yn ogof Machpela (ar y darn tir oedd i'r dwyrain o Mamre – sef y tir roedd Abraham wedi ei brynu gan Effron, un o ddisgynyddion Heth). Cafodd Abraham ei gladdu yno gyda'i wraig Sara.
11 Ar ôl i Abraham farw dyma Duw yn bendithio Isaac. Aeth i fyw wrth ymyl Beër-lachai-roi.
12 Dyma hanes teulu Ishmael, y mab gafodd Abraham gan Hagar, morwyn Eifftaidd Sara:
13 Dyma enwau meibion Ishmael, mewn trefn (o'r hynaf i'r ifancaf):Nebaioth oedd ei fab hynaf, wedyn Cedar, Adbeël, Mifsam,
14 Mishma, Dwma, Massa,
15 Hadad, Tema, Ietwr, Naffish a Cedema.