12 Dyma Isaac yn hau had ar y tir y flwyddyn honno a chafodd gnwd oedd gan gwaith cymaint yn ôl. Roedd yr ARGLWYDD yn ei fendithio.
13 Roedd yn ddyn llwyddiannus iawn, a daeth yn gyfoethog dros ben.
14 Roedd ganddo gymaint o ddefaid a gwartheg, a gweision, nes bod y Philistiaid yn genfigennus ohono.
15 Felly dyma'r Philistiaid yn llenwi'r pydewau dŵr i gyd gyda pridd. (Roedd y pydewau hynny wedi cael eu cloddio gan weision Abraham pan oedd Abraham yn dal yn fyw.)
16 A dyma Abimelech yn dweud wrth Isaac, “Ti'n llawer cryfach na ni bellach, felly rhaid i ti adael ein gwlad ni.”
17 Felly dyma Isaac yn mynd ac yn gwersylla wrth Wadi Gerar.
18 Roedd Isaac wedi ailagor y pydewau dŵr gafodd eu cloddio pan oedd Abraham yn fyw (Y rhai roedd y Philistiaid wedi eu llenwi ar ôl i Abraham farw.) Ac roedd Isaac wedi eu galw nhw wrth yr enwau roddodd ei dad iddyn nhw'n wreiddiol.