16 A dyma Abimelech yn dweud wrth Isaac, “Ti'n llawer cryfach na ni bellach, felly rhaid i ti adael ein gwlad ni.”
17 Felly dyma Isaac yn mynd ac yn gwersylla wrth Wadi Gerar.
18 Roedd Isaac wedi ailagor y pydewau dŵr gafodd eu cloddio pan oedd Abraham yn fyw (Y rhai roedd y Philistiaid wedi eu llenwi ar ôl i Abraham farw.) Ac roedd Isaac wedi eu galw nhw wrth yr enwau roddodd ei dad iddyn nhw'n wreiddiol.
19 Ond pan aeth gweision Isaac ati i gloddio pydewau wrth y wadi, dyma nhw'n darganfod ffynnon lle roedd dŵr glân yn llifo drwy'r adeg.
20 Yna dechreuodd bugeiliaid Gerar ddadlau gyda gweision Isaac. “Ni piau'r dŵr,” medden nhw. Felly galwodd Isaac y ffynnon yn Esec, am eu bod nhw wedi ffraeo gydag e.
21 Wedyn dyma nhw'n cloddio pydew arall, ac roedd dadlau am hwnnw hefyd. Felly galwodd Isaac hwnnw yn Sitna
22 Symudodd yn ei flaen a chloddio pydew arall, ond wnaethon nhw ddim dadlau am hwnnw. Felly galwodd y pydew hwnnw yn Rehoboth. “Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi digon o le i ni, a byddwn yn llwyddo yn y wlad,” meddai.