21 Wedyn dyma nhw'n cloddio pydew arall, ac roedd dadlau am hwnnw hefyd. Felly galwodd Isaac hwnnw yn Sitna
22 Symudodd yn ei flaen a chloddio pydew arall, ond wnaethon nhw ddim dadlau am hwnnw. Felly galwodd y pydew hwnnw yn Rehoboth. “Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi digon o le i ni, a byddwn yn llwyddo yn y wlad,” meddai.
23 Aeth Isaac yn ei flaen o'r fan honno i Beersheba.
24 Y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn ymddangos iddo. Dwedodd wrtho, “Fi ydy Duw Abraham dy dad. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Bydda i'n dy fendithio di ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion i ti o achos Abraham fy ngwas.”
25 Felly dyma fe'n codi allor yno ac addoli'r ARGLWYDD. Gwersyllodd yno am gyfnod, a dyma gweision Isaac yn cloddio pydew yno hefyd.
26 Dyma Abimelech yn dod ato o Gerar, gydag Achwsath ei gynghorwr a Pichol pennaeth ei fyddin.
27 Gofynnodd Isaac iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi dod yma? Dych chi'n fy nghasáu i, ac wedi fy anfon i ffwrdd oddi wrthych.”