27 Gofynnodd Isaac iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi dod yma? Dych chi'n fy nghasáu i, ac wedi fy anfon i ffwrdd oddi wrthych.”
28 Dyma nhw'n ateb, “Mae'n hollol amlwg i ni fod yr ARGLWYDD gyda ti. Felly dŷn ni eisiau gwneud cytundeb hefo ti.
29 Wnei di addo peidio ymosod arnon ni? Wnaethon ni ddim drwg i ti, dim ond da, a chefaist dy anfon i ffwrdd mewn heddwch. Mae'r ARGLWYDD wedi dy fendithio di.”
30 Felly dyma Isaac yn paratoi gwledd iddyn nhw, a dyma nhw'n bwyta ac yn yfed gyda'i gilydd.
31 Y bore wedyn dyma nhw'n codi'n gynnar ac yn gwneud cytundeb gyda'i gilydd. Wedyn dyma Isaac yn ffarwelio â nhw ar delerau da.
32 Y diwrnod hwnnw hefyd daeth gweision Isaac ato i ddweud wrtho eu bod wedi dod o hyd i ddŵr yn y pydew y buon nhw'n ei gloddio.
33 Galwodd Isaac y pydew yn Sheba. Felly Beersheba ydy enw'r lle hyd heddiw.