6 Felly dyma Isaac yn mynd i fyw i Gerar.
7 Roedd y dynion yno yn dangos diddordeb yn ei wraig. Felly dwedodd Isaac, “Fy chwaer i ydy hi.” (Roedd arno ofn dweud mai ei wraig oedd hi, rhag i'r dynion ei ladd er mwyn cael Rebeca. Roedd hi'n wraig hardd iawn.)
8 Pan oedd Isaac wedi bod yn byw yno am amser hir, digwyddodd Abimelech, brenin y Philistiaid, edrych allan o'r ffenest a gweld Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca.
9 Dyma Abimelech yn gofyn i Isaac fynd i'w weld, a dwedodd wrtho, “Felly, dy wraig di ydy hi go iawn! Pam wnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi’?” Atebodd Isaac, “Roedd gen i ofn i rywun fy lladd i er mwyn ei chael hi.”
10 “Beth yn y byd ti'n meddwl rwyt ti'n wneud?” meddai Abimelech. “Beth petai un o'r dynion wedi cysgu hefo hi? Byddet ti wedi'n gwneud ni i gyd yn euog.”
11 Felly dyma Abimelech yn rhoi gorchymyn i'w bobl, “Os bydd unrhyw un yn cyffwrdd â'r dyn yma neu ei wraig, y gosb fydd marwolaeth.”
12 Dyma Isaac yn hau had ar y tir y flwyddyn honno a chafodd gnwd oedd gan gwaith cymaint yn ôl. Roedd yr ARGLWYDD yn ei fendithio.