13 Ond dyma'i fam yn dweud, “Gad i'r felltith ddod arna i. Gwna di beth dw i'n ddweud. Dos di i nôl y geifr.”
14 Felly aeth Jacob i nôl y geifr, a dod â nhw i'w fam. A dyma'i fam yn eu coginio nhw, a gwneud y math o fwyd blasus roedd Isaac yn ei hoffi.
15 Roedd dillad gorau Esau, ei mab hynaf, yn y tŷ gan Rebeca. Dyma hi'n eu cymryd nhw a gwneud i Jacob, ei mab ifancaf, eu gwisgo nhw.
16 Wedyn dyma hi'n cymryd crwyn y myn geifr a'u rhoi nhw ar ddwylo a gwddf Jacob.
17 Yna dyma hi'n rhoi'r bwyd blasus, gyda bara oedd hi wedi ei bobi, i'w mab Jacob.
18 Aeth Jacob i mewn at ei dad. “Dad,” meddai. “Ie, dyma fi,” meddai Isaac. “Pa un wyt ti?”
19 “Esau, dy fab hynaf,” meddai Jacob. “Dw i wedi gwneud beth ofynnaist ti i mi. Tyrd, eistedd i ti gael bwyta o'r helfa. Wedyn cei di fy mendithio i.”