25 “Tyrd â'r helfa yma i mi gael bwyta cyn dy fendithio di,” meddai Isaac. Felly daeth Jacob â'r bwyd iddo, a dyma Isaac yn ei fwyta. Daeth â gwin iddo ei yfed hefyd.
26 Wedyn dyma Isaac yn dweud, “Tyrd yma a rho gusan i mi fy mab.”
27 A dyma Jacob yn mynd ato a rhoi cusan iddo. Pan glywodd Isaac yr arogl ar ddillad ei fab, dyma fe'n ei fendithio, a dweud,“Ie, mae fy mab yn aroglifel y tir mae'r ARGLWYDD wedi ei fendithio.
28 Boed i Dduw roi gwlith o'r awyr i ti,a chnydau gwych o'r tir,– digonedd o ŷd a grawnwin.
29 Boed i bobloedd eraill dy wasanaethu di,a gwledydd eraill ymgrymu o dy flaen.Byddi'n feistr ar dy frodyr,a bydd meibion dy fam yn ymgrymu o dy flaen.Bydd Duw yn melltithio pawb sy'n dy felltithio di,ac yn bendithio pawb sy'n dy fendithio di!”
30 Roedd Isaac newydd orffen bendithio Jacob, a Jacob prin wedi gadael, pan ddaeth Esau i mewn ar ôl bod yn hela.
31 Dyma yntau'n paratoi bwyd blasus, a mynd ag e i'w dad. “Tyrd, eistedd, i ti gael bwyta o helfa dy fab, ac wedyn cei fy mendithio i.”