28 Boed i Dduw roi gwlith o'r awyr i ti,a chnydau gwych o'r tir,– digonedd o ŷd a grawnwin.
29 Boed i bobloedd eraill dy wasanaethu di,a gwledydd eraill ymgrymu o dy flaen.Byddi'n feistr ar dy frodyr,a bydd meibion dy fam yn ymgrymu o dy flaen.Bydd Duw yn melltithio pawb sy'n dy felltithio di,ac yn bendithio pawb sy'n dy fendithio di!”
30 Roedd Isaac newydd orffen bendithio Jacob, a Jacob prin wedi gadael, pan ddaeth Esau i mewn ar ôl bod yn hela.
31 Dyma yntau'n paratoi bwyd blasus, a mynd ag e i'w dad. “Tyrd, eistedd, i ti gael bwyta o helfa dy fab, ac wedyn cei fy mendithio i.”
32 “Pwy wyt ti?” meddai Isaac wrtho. “Esau, dy fab hynaf,” meddai yntau.
33 Dechreuodd Isaac grynu drwyddo'n afreolus. “Ond pwy felly ddaeth â bwyd i mi ar ôl bod allan yn hela? Dw i newydd fwyta cyn i ti ddod i mewn, a'i fendithio fe. Bydd e wir yn cael ei fendithio!”
34 Pan glywodd Esau beth ddwedodd ei dad, dyma fe'n sgrechian gweiddi'n chwerw. “Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” meddai.