3 Cymer dy fwa, a chawell o saethau, a dos allan i hela i mi.
4 Wedyn dw i am i ti baratoi y math o fwyd blasus dw i'n ei hoffi, i mi gael bwyta. Dw i wir eisiau dy fendithio di cyn i mi farw.”
5 Tra roedd Isaac yn dweud hyn wrth Esau, roedd Rebeca wedi bod yn gwrando. Felly pan aeth Esau allan i hela
6 dyma Rebeca'n mynd at Jacob a dweud wrtho, “Dw i newydd glywed dy dad yn dweud wrth Esau dy frawd,
7 ‘Dos allan i hela a gwneud bwyd blasus i mi ei fwyta. Wedyn gwna i dy fendithio di o flaen yr ARGLWYDD cyn i mi farw.’
8 Felly gwna yn union fel dw i'n dweud.
9 Dewis ddau fyn gafr da i mi o'r praidd. Gwna i eu coginio a gwneud pryd blasus i dy dad – y math o fwyd mae'n ei hoffi.