30 Roedd Isaac newydd orffen bendithio Jacob, a Jacob prin wedi gadael, pan ddaeth Esau i mewn ar ôl bod yn hela.
31 Dyma yntau'n paratoi bwyd blasus, a mynd ag e i'w dad. “Tyrd, eistedd, i ti gael bwyta o helfa dy fab, ac wedyn cei fy mendithio i.”
32 “Pwy wyt ti?” meddai Isaac wrtho. “Esau, dy fab hynaf,” meddai yntau.
33 Dechreuodd Isaac grynu drwyddo'n afreolus. “Ond pwy felly ddaeth â bwyd i mi ar ôl bod allan yn hela? Dw i newydd fwyta cyn i ti ddod i mewn, a'i fendithio fe. Bydd e wir yn cael ei fendithio!”
34 Pan glywodd Esau beth ddwedodd ei dad, dyma fe'n sgrechian gweiddi'n chwerw. “Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” meddai.
35 Ond meddai Isaac, “Mae dy frawd wedi fy nhwyllo i, a dwyn dy fendith.”
36 “Mae'r enw Jacob yn ei ffitio i'r dim!” meddai Esau. “Dyma'r ail waith iddo fy nisodli. Mae wedi cymryd fy hawliau fel y mab hynaf oddi arna i, a nawr mae e wedi dwyn fy mendith i.” Ac meddai wrth ei dad, “Wyt ti ddim wedi cadw un fendith i mi?”