32 “Pwy wyt ti?” meddai Isaac wrtho. “Esau, dy fab hynaf,” meddai yntau.
33 Dechreuodd Isaac grynu drwyddo'n afreolus. “Ond pwy felly ddaeth â bwyd i mi ar ôl bod allan yn hela? Dw i newydd fwyta cyn i ti ddod i mewn, a'i fendithio fe. Bydd e wir yn cael ei fendithio!”
34 Pan glywodd Esau beth ddwedodd ei dad, dyma fe'n sgrechian gweiddi'n chwerw. “Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” meddai.
35 Ond meddai Isaac, “Mae dy frawd wedi fy nhwyllo i, a dwyn dy fendith.”
36 “Mae'r enw Jacob yn ei ffitio i'r dim!” meddai Esau. “Dyma'r ail waith iddo fy nisodli. Mae wedi cymryd fy hawliau fel y mab hynaf oddi arna i, a nawr mae e wedi dwyn fy mendith i.” Ac meddai wrth ei dad, “Wyt ti ddim wedi cadw un fendith i mi?”
37 Ond dyma Isaac yn ei ateb, “Dw i wedi ei wneud yn feistr arnat ti. Bydd ei berthnasau i gyd yn ei wasanaethu. Bydd ganddo ddigon o ŷd a sudd grawnwin i'w gynnal. Felly beth sydd ar ôl i mi ei roi i ti, fy mab?”
38 “Ai dim ond un fendith sydd gen ti, dad? Bendithia fi! Bendithia fi hefyd dad!” A dyma Esau'n dechrau crïo'n uchel.