39 Felly dyma Isaac, ei dad, yn dweud fel hyn:“Byddi di'n byw heb gael cnydau da o'r tir,a heb wlith o'r awyr.
40 Byddi di'n byw drwy ymladd â'r cleddyf,ac yn gwasanaethu dy frawd.Ond byddi di'n gwrthryfela, ac yn torri'r iau oedd wedi ei rhoi ar dy ysgwyddau.”
41 Roedd Esau yn casáu Jacob o achos y fendith roedd ei dad wedi ei rhoi iddo. “Bydd dad wedi marw cyn bo hir,” meddai'n breifat. “A dw i'n mynd i ladd Jacob wedyn.”
42 Ond daeth Rebeca i glywed am beth roedd Esau, ei mab hynaf, yn ei ddweud. Felly dyma hi'n galw am Jacob, ei mab ifancaf, ac yn dweud wrtho, “Mae dy frawd Esau yn bwriadu dial arnat ti trwy dy ladd di.
43 Felly gwna di beth dw i'n ddweud. Rhaid i ti ddianc ar unwaith at fy mrawd Laban yn Haran.
44 Aros yno gydag e am ychydig, nes bydd tymer dy frawd wedi tawelu.
45 Pan fydd e wedi anghofio beth wnest ti, gwna i anfon amdanat ti i ti gael dod yn ôl. Pam ddylwn i golli'r ddau ohonoch chi'r un diwrnod?”