7 ‘Dos allan i hela a gwneud bwyd blasus i mi ei fwyta. Wedyn gwna i dy fendithio di o flaen yr ARGLWYDD cyn i mi farw.’
8 Felly gwna yn union fel dw i'n dweud.
9 Dewis ddau fyn gafr da i mi o'r praidd. Gwna i eu coginio a gwneud pryd blasus i dy dad – y math o fwyd mae'n ei hoffi.
10 Cei di fynd â'r bwyd i dy dad iddo ei fwyta. Wedyn bydd e'n dy fendithio di cyn iddo farw.”
11 “Ond mae Esau yn flewog i gyd,” meddai Jacob wrth ei fam. “Croen meddal sydd gen i.
12 Os gwnaiff dad gyffwrdd fi bydd yn gweld fy mod i'n ceisio ei dwyllo. Bydda i'n dod â melltith arna i fy hun yn lle bendith.”
13 Ond dyma'i fam yn dweud, “Gad i'r felltith ddod arna i. Gwna di beth dw i'n ddweud. Dos di i nôl y geifr.”