1 Dyma Jacob yn bwrw ymlaen ar ei daith, ac yn dod i wlad pobl y dwyrain.
2 Daeth ar draws pydew dŵr yng nghanol y wlad, a thri praidd o ddefaid yn gorwedd o gwmpas y pydew. Dyna ble roedd yr anifeiliaid yn cael dŵr. Roedd carreg fawr yn gorwedd ar geg y pydew.
3 Pan fyddai'r preiddiau i gyd wedi cyrraedd yno, byddai'r bugeiliaid yn symud y garreg a rhoi dŵr i'r defaid. Wedyn bydden nhw'n rhoi'r garreg yn ôl ar geg y pydew.
4 Gofynnodd Jacob iddyn nhw, “O ble dych chi'n dod, frodyr?” “O Haran,” medden nhw.
5 “Ydych chi'n nabod Laban fab Nachor?” holodd Jacob. “Ydyn,” medden nhw.
6 “Sut mae e'n cadw?” gofynnodd Jacob. “Mae e'n cadw'n dda,” medden nhw. “Edrych, dyma Rachel, ei ferch, yn cyrraedd gyda'i defaid.”