10 Pan welodd Jacob Rachel, merch ei ewythr Laban, gyda'r defaid, dyma fe'n symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i braidd ei ewythr.
11 Yna aeth at Rachel, a'i chyfarch gyda chusan. Roedd yn methu peidio crïo.
12 Dwedodd wrth Rachel ei fod yn nai i'w thad, ac yn fab i Rebeca. A dyma Rachel yn rhedeg i ddweud wrth ei thad.
13 Pan glywodd Laban y newyddion am Jacob, mab ei chwaer, rhuthrodd allan i'w gyfarfod. Rhoddodd groeso brwd iddo drwy ei gofleidio a'i gusanu, ac aeth ag e i'w dŷ. Wedyn dwedodd Jacob bopeth wrth Laban.
14 “Rwyt ti wir yn un o nheulu i!” meddai Laban.Roedd Jacob wedi aros gyda Laban am fis,
15 ac meddai Laban wrtho, “Ddylet ti ddim bod yn gweithio i mi am ddim am dy fod yn perthyn i mi. Dywed beth rwyt ti eisiau'n gyflog.”
16 Roedd gan Laban ddwy ferch – Lea, yr hynaf, a Rachel, yr ifancaf.