15 ac meddai Laban wrtho, “Ddylet ti ddim bod yn gweithio i mi am ddim am dy fod yn perthyn i mi. Dywed beth rwyt ti eisiau'n gyflog.”
16 Roedd gan Laban ddwy ferch – Lea, yr hynaf, a Rachel, yr ifancaf.
17 Roedd gan Lea lygaid hyfryd, ond roedd Rachel yn ferch siapus ac yn wirioneddol hardd.
18 Roedd Jacob wedi syrthio mewn cariad hefo Rachel, ac meddai wrth Laban, “Gwna i weithio i ti am saith mlynedd os ca i briodi Rachel, dy ferch ifancaf.”
19 “Byddai'n well gen i ei rhoi hi i ti nag i unrhyw ddyn arall,” meddai Laban. “Aros di yma i weithio i mi.”
20 Felly dyma Jacob yn gweithio am saith mlynedd er mwyn cael priodi Rachel. Ond roedd fel ychydig ddyddiau i Jacob am ei fod yn ei charu hi gymaint.
21 Ar ddiwedd y saith mlynedd dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Dw i wedi gweithio am yr amser wnaethon ni gytuno, felly rho fy ngwraig i mi, i mi gael cysgu hefo hi.”