21 Ar ddiwedd y saith mlynedd dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Dw i wedi gweithio am yr amser wnaethon ni gytuno, felly rho fy ngwraig i mi, i mi gael cysgu hefo hi.”
22 Felly dyma Laban yn trefnu parti i ddathlu, ac yn gwahodd pobl y cylch i gyd i'r parti.
23 Ond ar ddiwedd y noson daeth Laban â'i ferch Lea at Jacob, a dyma Jacob yn cysgu gyda hi.
24 (Ac roedd Laban wedi rhoi ei forwyn Silpa i'w ferch Lea i fod yn forwyn iddi hi.)
25 Y bore wedyn cafodd Jacob sioc – dyna ble roedd Lea yn gorwedd gydag e! Aeth at Laban, “Beth yn y byd rwyt ti wedi ei wneud i mi?” meddai Jacob. “Roeddwn i wedi gweithio i ti er mwyn cael Rachel. Pam wyt ti wedi fy nhwyllo i?”
26 Ac meddai Laban, “Mae'n groes i'r arferiad yn ein gwlad ni i'r ferch ifancaf briodi o flaen yr hynaf.
27 Disgwyl nes bydd yr wythnos yma o ddathlu drosodd, a gwna i roi Rachel i ti hefyd os gwnei di weithio i mi am saith mlynedd arall.”