26 Ac meddai Laban, “Mae'n groes i'r arferiad yn ein gwlad ni i'r ferch ifancaf briodi o flaen yr hynaf.
27 Disgwyl nes bydd yr wythnos yma o ddathlu drosodd, a gwna i roi Rachel i ti hefyd os gwnei di weithio i mi am saith mlynedd arall.”
28 Felly dyna wnaeth Jacob. Arhosodd nes oedd yr wythnos o ddathlu drosodd, ac wedyn dyma Laban yn rhoi ei ferch Rachel iddo hefyd.
29 (A rhoddodd ei forwyn Bilha i'w ferch Rachel i fod yn forwyn iddi hi.)
30 Felly dyma Jacob yn cysgu gyda Rachel. Roedd yn caru Rachel fwy na Lea. A gweithiodd i Laban am saith mlynedd arall.
31 Pan welodd yr ARGLWYDD fod Jacob ddim yn caru Lea gymaint a Rachel, rhoddodd blant i Lea. Ond roedd Rachel yn methu cael plant.
32 Dyma Lea'n beichiogi ac yn cael mab ac yn ei alw'n Reuben. “Mae'r ARGLWYDD wedi gweld fy mod i'n cael fy nhrin yn wael,” meddai. “Bydd fy ngŵr yn siŵr o ngharu i nawr!”