1 Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall oedd yr ARGLWYDD Dduw wedi eu creu. A dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Ydy Duw wir wedi dweud, ‘Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd’?”
2 “Na,” meddai'r wraig wrth y neidr, “dŷn ni'n cael bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd.
3 Dim ond am ffrwyth y goeden yng nghanol yr ardd y dwedodd Duw, ‘Peidiwch bwyta ei ffrwyth hi a peidiwch ei chyffwrdd hi, rhag i chi farw.’”
4 Ond dyma'r neidr yn dweud wrth y wraig, “Na! Fyddwch chi ddim yn marw.
5 Mae Duw yn gwybod y byddwch chi'n gweld popeth yn glir pan wnewch chi fwyta. Byddwch chi'n gwybod am bopeth – da a drwg – fel Duw ei hun.”
6 Gwelodd y wraig fod ffrwyth y goeden yn edrych yn dda i'w fwyta. Roedd cael ei gwneud yn ddoeth yn apelio ati, felly dyma hi'n cymryd peth o'i ffrwyth ac yn ei fwyta. Yna rhoddodd beth i'w gŵr, oedd gyda hi, a dyma fe'n bwyta hefyd.