11 “Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod di'n noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddywedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?”
12 Ac meddai'r dyn, “Y wraig rwyt ti wedi ei rhoi i mi – hi roddodd y ffrwyth i mi, a dyma fi'n ei fwyta.”
13 Yna gofynnodd yr ARGLWYDD Dduw i'r wraig, “Be ti'n feddwl ti'n wneud?” A dyma'r wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.”
14 Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud wrth y neidr:“Melltith arnat ti am wneud hyn!Ti fydd yr unig anifail dof neu wyllt sydd wedi dy felltithio.Byddi'n llusgo o gwmpas ar dy folac yn llyfu'r llwch drwy dy fywyd.
15 Byddi di a'r wraig yn elynion.Bydd dy had di a'i had hi bob amser yn elynion.Bydd e'n sathru dy ben di,a byddi di'n taro ei sawdl e.”
16 A dyma fe'n dweud wrth y wraig:“Bydd cael plant yn waith llawer anoddach i ti;byddi'n diodde poenau ofnadwy wrth eni plentyn.Byddi di eisiau dy ŵr,ond bydd e fel meistr arnat ti.”
17 Wedyn dyma fe'n dweud wrth Adda:“Rwyt ti wedi gwrando ar dy wraiga bwyta ffrwyth y goeden roeddwn wedi dweud amdani,‘Paid bwyta ei ffrwyth hi.’Felly mae'r ddaear wedi ei melltithio o dy achos di.Bydd rhaid i ti weithio'n galed i gael bwyd bob amser.