18 Bydd drain ac ysgall yn tyfu ar y tir,a byddi'n bwyta'r cnydau sy'n tyfu yn y caeau.
19 Bydd rhaid i ti weithio'n galed a chwysu i gael bwyd i fyw,hyd nes i ti farw a mynd yn ôl i'r pridd.Dyna o lle y daethost ti.Pridd wyt ti, a byddi'n mynd yn ôl i'r pridd.”
20 Dyma'r dyn yn rhoi'r enw Efa i'w wraig, am mai hi fyddai mam pob person byw.
21 Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud dillad o grwyn anifeiliaid i Adda a'i wraig eu gwisgo.
22 A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud, “Mae dyn bellach yr un fath â ni, yn gwybod am bopeth – da a drwg. Rhaid peidio gadael iddo gymryd ffrwyth y goeden sy'n rhoi bywyd, neu bydd yn ei fwyta ac yn byw am byth.”
23 Felly dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ei anfon allan o'r ardd yn Eden i drin y pridd y cafodd ei wneud ohono.
24 Pan gafodd y dyn ei daflu allan o'r ardd, gosododd Duw geriwbiaid ar ochr ddwyreiniol yr ardd yn Eden, a chleddyf tân yn chwyrlïo i rwystro unrhyw un rhag mynd at y goeden sy'n rhoi bywyd.