8 Yna dyma nhw'n clywed sŵn yr ARGLWYDD Dduw yn mynd trwy'r ardd pan oedd gwynt yn dechrau codi. A dyma'r dyn a'i wraig yn mynd i guddio o olwg yr ARGLWYDD Dduw, i ganol y coed yn yr ardd.
9 Ond galwodd yr ARGLWYDD Dduw ar y dyn, a gofyn iddo, “Ble rwyt ti?”
10 Atebodd y dyn, “Roeddwn i'n clywed dy sŵn di yn yr ardd, ac roedd arna i ofn am fy mod i'n noeth. Felly dyma fi'n cuddio.”
11 “Pwy ddwedodd wrthot ti dy fod di'n noeth?” meddai Duw. “Wyt ti wedi bwyta ffrwyth y goeden ddywedais i wrthot ti am beidio ei fwyta?”
12 Ac meddai'r dyn, “Y wraig rwyt ti wedi ei rhoi i mi – hi roddodd y ffrwyth i mi, a dyma fi'n ei fwyta.”
13 Yna gofynnodd yr ARGLWYDD Dduw i'r wraig, “Be ti'n feddwl ti'n wneud?” A dyma'r wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.”
14 Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn dweud wrth y neidr:“Melltith arnat ti am wneud hyn!Ti fydd yr unig anifail dof neu wyllt sydd wedi dy felltithio.Byddi'n llusgo o gwmpas ar dy folac yn llyfu'r llwch drwy dy fywyd.