1 Pan sylweddolodd Rachel ei bod hi'n methu cael plant, roedd hi'n genfigennus o'i chwaer. “Dw i'n mynd i farw os wnei di ddim rhoi plant i mi!” meddai hi wrth Jacob.
2 Ond dyma Jacob yn digio go iawn gyda hi. “Ai Duw ydw i? Duw sydd wedi dy rwystro di rhag cael plant.”
3 Yna dyma Rachel yn dweud, “Cymer fy morwyn i, Bilha. Cysga gyda hi, er mwyn iddi hi gael plant i mi eu magu. Ga i deulu drwyddi hi.”
4 Felly dyma Rachel yn rhoi ei morwyn Bilha yn wraig iddo, a dyma Jacob yn cysgu gyda hi.
5 A dyma Bilha yn beichiogi ac yn cael mab i Jacob.
6 “Mae Duw wedi dyfarnu o'm plaid i,” meddai Rachel. “Mae wedi fy nghlywed i, a rhoi mab i mi.” A dyna pam wnaeth hi ei alw'n Dan.