16 Pan oedd Jacob ar ei ffordd yn ôl o'r caeau gyda'r nos, aeth Lea allan i'w gyfarfod. “Rhaid i ti gysgu hefo fi heno,” meddai wrtho. “Dw i wedi talu am dy gael di gyda'r ffrwythau cariad ffeindiodd fy mab.” Felly dyma Jacob yn cael rhyw gyda hi y noson honno.
17 A dyma Duw yn gwrando ar Lea, a dyma hi'n beichiogi ac yn cael ei phumed mab i Jacob.
18 “Mae Duw wedi rhoi gwobr i mi am roi fy morwyn i'm gŵr.” Felly dyma hi'n ei alw yn Issachar.
19 Yna dyma Lea'n beichiogi eto a rhoi chweched mab i Jacob.
20 “Mae Duw wedi rhoi rhodd hael i mi i'w chyflwyno i'm gŵr. Bydd yn fy nghyfri i'n sbesial, am fy mod i wedi rhoi chwe mab iddo.” Felly dyma hi'n galw'r plentyn yn Sabulon.
21 Wedyn dyma hi'n cael merch, a'i galw hi'n Dina.
22 Ond doedd Duw ddim wedi anghofio Rachel. Dyma fe'n gwrando ar ei gweddi a rhoi plant iddi.