17 A dyma Duw yn gwrando ar Lea, a dyma hi'n beichiogi ac yn cael ei phumed mab i Jacob.
18 “Mae Duw wedi rhoi gwobr i mi am roi fy morwyn i'm gŵr.” Felly dyma hi'n ei alw yn Issachar.
19 Yna dyma Lea'n beichiogi eto a rhoi chweched mab i Jacob.
20 “Mae Duw wedi rhoi rhodd hael i mi i'w chyflwyno i'm gŵr. Bydd yn fy nghyfri i'n sbesial, am fy mod i wedi rhoi chwe mab iddo.” Felly dyma hi'n galw'r plentyn yn Sabulon.
21 Wedyn dyma hi'n cael merch, a'i galw hi'n Dina.
22 Ond doedd Duw ddim wedi anghofio Rachel. Dyma fe'n gwrando ar ei gweddi a rhoi plant iddi.
23 Dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. “Mae Duw wedi symud y cywilydd oeddwn i'n deimlo,” meddai.