22 Ond doedd Duw ddim wedi anghofio Rachel. Dyma fe'n gwrando ar ei gweddi a rhoi plant iddi.
23 Dyma hi'n beichiogi ac yn cael mab. “Mae Duw wedi symud y cywilydd oeddwn i'n deimlo,” meddai.
24 Galwodd hi'r plentyn yn Joseff. “Boed i'r ARGLWYDD roi mab arall i mi!” meddai.
25 Ar ôl i Joseff gael ei eni i Rachel, dyma Jacob yn dweud wrth Laban, “Gad i mi fynd! Dw i eisiau mynd adre i'm gwlad fy hun.
26 Gad i mi fynd gyda'r gwragedd a'r plant wnes i weithio i ti amdanyn nhw. Ti'n gwybod mor galed dw i wedi gweithio i ti.”
27 Ond atebodd Laban, “Plîs wnei di ystyried aros yma? Dw i wedi dod yn gyfoethog, ac mae'r ARGLWYDD wedi fy mendithio i am dy fod ti gyda mi.
28 Dywed faint o gyflog wyt ti eisiau, a gwna i ei dalu!”