26 Gad i mi fynd gyda'r gwragedd a'r plant wnes i weithio i ti amdanyn nhw. Ti'n gwybod mor galed dw i wedi gweithio i ti.”
27 Ond atebodd Laban, “Plîs wnei di ystyried aros yma? Dw i wedi dod yn gyfoethog, ac mae'r ARGLWYDD wedi fy mendithio i am dy fod ti gyda mi.
28 Dywed faint o gyflog wyt ti eisiau, a gwna i ei dalu!”
29 A dyma Jacob yn dweud, “Ti'n gwybod fel dw i wedi gweithio i ti, ac mor dda mae'r anifeiliaid dw i'n gofalu amdanyn nhw wedi gwneud.
30 Ychydig oedd gen ti cyn i mi ddod. Ond bellach mae gen ti lot fawr. Mae'r ARGLWYDD wedi dy fendithio di ble bynnag roeddwn i'n gweithio. Mae'n bryd i mi wneud rhywbeth i'm teulu fy hun.”
31 “Dw i'n fodlon rhoi faint bynnag ti'n gofyn amdano,” meddai Laban. “Does dim rhaid i ti roi dim byd i mi,” meddai Jacob. “Ond os wna i edrych ar ôl dy breiddiau di a'u cadw nhw'n saff, dw i am i ti gytuno i un peth.
32 Gad i mi fynd trwyddyn nhw i gyd heddiw, a dewis pob dafad frith ac oen du, a'r un fath gyda'r geifr. Dyna fydd fy nghyflog i.